Job Description:
Latest job information from Capita Health Assessment Advisory Service for the position of Welsh Speaking Inbound Enquiry Centre Advisors - Stafford. If the Welsh Speaking Inbound Enquiry Centre Advisors - Stafford vacancy in Stafford matches your qualifications, please submit your latest application or CV directly through the updated Jobkos job portal.
Please note that applying for a job may not always be easy, as new candidates must meet certain qualifications and requirements set by the company. We hope the career opportunity at Capita Health Assessment Advisory Service for the position of Welsh Speaking Inbound Enquiry Centre Advisors - Stafford below matches your qualifications.
Job Description
Disgrifiad o’r Swydd
Cyflog: Yn dechrau ar £26,227.50
Amgylchedd di-werthu, yn derbyn galwadau gwasanaeth sy’n dod i mewn.
Byddwch yn gweithio o’ch cyfeiriad cartref gyda swyddfa benodedig yng Nghanolfan The Riverway, Stafford, y byddwch yn ei mynychu o leiaf 3 diwrnod yr wythnos. Bydd y diwrnodau swyddfa yn ddydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau.
Swydd amser llawn yw hon – 37.5 awr yr wythnos, dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 y bore ac 8.00 yn y nos, gyda rhai dydd Sadwrn rhwng 9 y bore a 5 y prynhawn.
Rydym yn chwilio am Gynghorwyr Canolfan Ymholiadau Mewnol i ymuno â’n tîm gwasanaeth cwsmeriaid sy’n ehangu ar sail barhaol amser llawn yn Stafford, DU.
Mae’r rôl yn cynnwys darparu profiad hawlydd o ansawdd uchel dros y ffôn i hawlwyr newydd a phresennol y Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) sydd yn dymuno gwneud hawliad newydd neu sydd eisoes yn derbyn Lwfans Byw Anabledd (DLA) ac ar y cam o adnewyddu eu budd-dal. Mae ein timau gwasanaeth cwsmeriaid yn gyfrifol am ddatrys materion syml a chymhleth ar gyfer ystod eang o gwsmeriaid, yn ogystal â chwblhau tasgau gweinyddol.
Prif Gyfrifoldebau:
- Ateb galwadau gan hawlwyr/cynrychiolwyr a delio ag ymholiadau megis trefnu apwyntiadau mewn modd proffesiynol ac effeithiol, gan sicrhau’r safon uchaf o brofiad i’r hawlydd.
- Mewnbynnu data’n gywir, gyda sylw i fanylion wrth gwblhau tasgau gweinyddol.
- Unrhyw ddyletswyddau eraill y gall y busnes eu hystyried yn angenrheidiol er mwyn sicrhau darpariaeth lwyddiannus y gwasanaeth asesu PIP.
Qualifications
Cymwysterau
- Sgiliau gwrando da – gallu deall problemau cwsmeriaid a rhoi esboniadau clir a chryno.
- Y gallu i weithio’n dda o fewn tîm a dangos hyblygrwydd i ateb anghenion a disgwyliadau’r tîm/busnes.
- Y gallu i gymryd cyfrifoldeb dros faterion, gan eu datrys lle bynnag sy’n bosibl yn ystod cam cychwynnol yr ymholiad.
- Dull ffôn cwrtais a phroffesiynol, gan ddangos parch ac empathi tuag at alwyr.
- Brwdfrydedd gwirioneddol dros wasanaeth cwsmeriaid.
- Rheoli amser da.
- Sylw uchel i fanylion a mewnbynnu data yn gywir.
- Y gallu i weithio patrwm sifftiau amrywiol yn ystod oriau agor y ganolfan gyswllt.
- Bod yn hyblyg i newid mewn amgylchedd sy’n newid yn barhaus.
Additional Information
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae gennym raglen hyfforddi sy’n dechrau ar 7fed o Medi 2026, felly bydd angen i chi allu ymrwymo i hyn. Ni allwn gymeradwyo unrhyw wyliau blynyddol o fewn 6 wythnos gyntaf yr hyfforddiant.
Bydd pob cynnig yn amodol ar gwblhau gwiriad safonol o ran Diogelwch Personél Sylfaenol yn foddhaol, sy’n cynnwys gwiriad troseddol sylfaenol.
Buddiannau:
- Cyflog cychwynnol o £26,227.50
- Bonws perfformiad chwarterol dewisol
- 25 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal ag 8 gwyliau statudol
- Cyfleoedd i symud ymlaen a datblygu gyrfa werth chweil gydag un o gwmnïau FTSE 100 (mae dros 70% o’n rheolwyr wedi datblygu o fewn y cwmni)
- Pensiwn gyda chyfraniad cyfatebol gan y cwmni (hyd at 5% o’ch cyflog), sicrwydd bywyd, cynllun beicio i’r gwaith, 15 wythnos o absenoldeb mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu â thâl llawn, dau wythnos o dâl tadolaeth… a llawer mwy
- Buddiannau gwirfoddol wedi’u cynllunio i weddu i’ch ffordd o fyw – o ostyngiadau mewn siopa a chymdeithasu i iechyd a lles, teithio a thechnoleg
- Y cyfle i gymryd diwrnod wedi’i dalu allan o’r swyddfa, yn gwirfoddoli ar gyfer ein partneriaid elusennol neu achos o’ch dewis
- Mynediad at ein Grwpiau Rhwydwaith Gweithwyr, sy’n cynrychioli pob agwedd ar amrywiaeth ac yn galluogi cydweithwyr i gysylltu a dysgu oddi wrth ei gilydd ar blatfform agored a chynhwysol
- Rhaglen cymorth i weithwyr – cefnogaeth a chyngor 24/7 ar faterion personol neu waith
Rydym yn gyflogwr cyfle cyfartal ac yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, sy’n golygu ein bod yn recriwtio ac yn datblygu pobl ar sail eu teilyngdod a’u hangerdd. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu proses recriwtio a gweithle cynhwysol, heb rwystrau i bawb.
Os oes angen y disgrifiad swydd neu’r ffurflen gais mewn fformat arall (megis print mawr neu sain), neu os hoffech drafod unrhyw addasiadau neu gymorth pellach, cysylltwch drwy e-bost: a byddwn yn ymateb. Am ragor o wybodaeth am gyfleoedd cyfartal ac addasiadau i’r broses, ewch i wefan Gyrfaoedd Capita.
Fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, byddwn yn sicrhau y cynigir cyfweliad i nifer deg a chymesur o ymgeiswyr anabl sy’n bodloni’r meini prawf lleiaf ar gyfer y swydd hon. Mae addasiadau ar gael ar gais. Am ragor o wybodaeth neu i drafod unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch, cysylltwch â ni ar: .
Job Info:
- Company: Capita Health Assessment Advisory Service
- Position: Welsh Speaking Inbound Enquiry Centre Advisors - Stafford
- Work Location: Stafford
- Country: GB
How to Submit an Application:
After reading and understanding the criteria and minimum qualification requirements explained in the job information Welsh Speaking Inbound Enquiry Centre Advisors - Stafford at the office Stafford above, immediately complete the job application files such as a job application letter, CV, photocopy of diploma, transcript, and other supplements as explained above. Submit via the Next Page link below.
Next Page »