Cymorth Technegol 4, Data Morol at Cyfoeth Naturiol Cymru / Natural Resources Wales

Position Cymorth Technegol 4, Data Morol
Posted 13 Apr 2026
Expired 13 May 2026
Company Cyfoeth Naturiol Cymru / Natural Resources Wales
Location Cardiff | GB
Job Type Full Time

Job Description:

Latest job information from Cyfoeth Naturiol Cymru / Natural Resources Wales for the position of Cymorth Technegol 4, Data Morol. If the Cymorth Technegol 4, Data Morol vacancy in Cardiff matches your qualifications, please submit your latest application or CV directly through the updated Jobkos job portal.

Please note that applying for a job may not always be easy, as new candidates must meet certain qualifications and requirements set by the company. We hope the career opportunity at Cyfoeth Naturiol Cymru / Natural Resources Wales for the position of Cymorth Technegol 4, Data Morol below matches your qualifications.

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Monitro, Asesu ac Adrodd Morol/ Gweithrediadau

Cyflog cychwynnol: £32,544 yn codi i £35,377 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Penodiad Tymor Penodol am 12 mis gyda'r posibilrwydd o barhaolrwydd.

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos(Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Rhif swydd: 203972

Y rôl

A ydych chi’n angerddol dros ecosystemau morol a gwneud gwir effaith drwy ddata? Rydym yn chwilio am unigolyn rhagweithiol sy’n ystyriol o fanylion i gefnogi ein Tîm Monitro, Asesu ac Adrodd Morol.

Yn y rôl hon, byddwch yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o reoli ein data morol a sicrhau eu hansawdd - o gofnodi biolegol a dilysu data i weithio ar draws systemau sy’n cefnogi gwaith tystiolaeth forol hanfodol CNC. Byddwch yn cydweithio’n agos â thimau morol eraill, gan gynnwys ein Grŵp Ecosystemau Arfordirol Morol a Dŵr Croyw, gan helpu i ddarparu data cywir a dibynadwy sy’n sail i’r broses o wneud penderfyniadau amgylcheddol ledled Cymru.

Byddwch yn rhan o dîm mawr, cyfeillgar a chefnogol iawn o 18 o arbenigwyr sy’n monitro ac yn adrodd ar bopeth o riffau islanwol i barthau rhynglanwol. Mae ein tîm yn rhan o’r Gyfarwyddiaeth Gweithrediadau Morol, ac yn cwmpasu arfordir cyfan Cymru. Felly, bydd eich gwaith yn cefnogi’n uniongyrchol y gwaith o ddiogelu ac adfer ein hamgylcheddau morol unigryw.

Os ydych yn drefnus, yn frwdfrydig dros wyddoniaeth forol, ac yn barod i weithio mewn tîm sy’n gwerthfawrogi cydweithio a chael effaith, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Lucie Haines at .

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal drwy Microsoft Teams.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, penodir o fewn pedair i wyth wythnos i’r dyddiad cau.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Gweithio fel rhan o dîm monitro, asesu ac adrodd morol i helpu i reoli mewnbwn data morol Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer Marine Recorder Online (MRO), sef system rheoli data gweithredol ar-lein ar gyfer data cadwraeth forol y DU, gan ganolbwyntio ar fioamrywiaeth benthig a data samplu cysylltiedig.
  • Gweithio gyda staff monitro morol i gefnogi eu gofynion ar gyfer rheoli, adfer a thrin data.
  • Trefnu cyfarfodydd â staff allweddol i nodi blaenoriaethau o ran mewnbynnu data, cysylltu â gwarcheidwad data (data, dulliau casglu, sut i strwythuro data yn Marine Recorder Online)
  • Gweithio ar draws timau i ddeall ble mae data’n cael eu cadw, a rheoli, cofnodi a chadw data yn ôl yr angen ar gyfer anghenion y prosiectau.
  • Ymgymryd â’r gwaith o gasglu, mewnbynnu, rheoli a dadansoddi data monitro.
  • Cefnogi ymatebion i geisiadau data pan fydd angen.
  • Cyfrannu at y gwaith ehangach o reoli data morol, er enghraifft, drwy roi mewnbwn i grwpiau sy’n defnyddio cronfeydd data, neu lunio canllawiau.
  • Cynorthwyo gyda gwaith maes pan fydd angen.
  • Cyfrannu at ddiwylliant iechyd, diogelwch a llesiant cadarnhaol.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
  • Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

    Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio .

  • Profiad blaenorol o weithio gyda data amgylcheddol (data morol, yn ddelfrydol) gan gynnwys sicrhau ansawdd, dilysu data a galluoedd technegol wrth drin data
  • Profiad o gofnodi biolegol
  • Profiad o Marine Recorder Online (dymunol)
  • Sgiliau hunanreoli a threfnu cadarn ac effeithiol
  • Sgiliau rhyngbersonol da, y gallu i gyfathrebu ag eraill.
  • Y gallu i weithio’n dda fel rhan o dîm
  • Meddu ar drwydded ddilys a chyfredol i yrru cerbydau fflyd CNC (ceir a faniau) (dymunol).
  • Cymwyseddau TG; profiad o MS Office a chronfeydd data, yn enwedig Microsoft Excel. Profiad GIS (dymunol). 
  • Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
  • Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

    Buddion

    Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
  • Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

    Daliwch ati i ddarllen

    Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.

    Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

    Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

    Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.

    Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

    Gwnewch gais am y rôl hon

    Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.

    Job Info:

    • Company: Cyfoeth Naturiol Cymru / Natural Resources Wales
    • Position: Cymorth Technegol 4, Data Morol
    • Work Location: Cardiff
    • Country: GB

    How to Submit an Application:

    After reading and understanding the criteria and minimum qualification requirements explained in the job information Cymorth Technegol 4, Data Morol at the office Cardiff above, immediately complete the job application files such as a job application letter, CV, photocopy of diploma, transcript, and other supplements as explained above. Submit via the Next Page link below.

    THIS JOB POSTING HAS EXPIRED (Over 30 days ago).
    Please search for the latest job opportunities on our Homepage.

    Similar Job Vacancies

      KS2 TA Wanted - Cardiff at Academics
    Posted: 1 day ago

    Desc: Experienced KS2 Teaching Assistant - CardiffStart Date: September 2026We are seeking an enthusiastic, experienced, and dedicated Teaching Assistant to join our supportive school team in Cardiff from S...

    Company: Academics | Location: Cardiff

      Assistant Head Chef - Cardiff at Zizzi
    Posted: 3 days ago

    Desc: Assistant Head Chef - UK - CardiffCalling all Pizza lovers!!.......(Pasta lovers are welcome too)Assistant Head Chef up to £14.25 per hour plus Tronc and Benefits As Assistant Head Chef you will be a...

    Company: Zizzi | Location: Cardiff