Latest job information from Cyfoeth Naturiol Cymru / Natural Resources Wales for the position of Cynghorydd Canolfan Cwsmeriaid x 2. If the Cynghorydd Canolfan Cwsmeriaid x 2 vacancy in Cardiff matches your qualifications, please submit your latest application or CV directly through the updated Jobkos job portal.
Please note that applying for a job may not always be easy, as new candidates must meet certain qualifications and requirements set by the company. We hope the career opportunity at Cyfoeth Naturiol Cymru / Natural Resources Wales for the position of Cynghorydd Canolfan Cwsmeriaid x 2 below matches your qualifications.
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol
Cyflog cychwynnol: £32,544 yn codi i £35,377 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau
Rhif swydd: 201769 & 203957
Y rôl
Ydych chi’n angerddol am ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol a gwneud argraff ystyrlon drwy eich gwaith?
Ymunwch â Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fel aelod allweddol o’n Canolfan Cwsmeriaid, lle bydd eich arbenigedd yn helpu i lunio sut rydym yn ymgysylltu â’r cyhoedd a rhanddeiliaid ledled Cymru.
Fel Cynghorydd Canolfan Cwsmeriaid byddwch yn arbenigo yn un o’n meysydd gwasanaeth craidd — trwyddedu data, ceisiadau rhyddid gwybodaeth, neu ymholiadau cyffredinol. Fel arbenigwr pwnc, byddwch yn darparu ymatebion cywir, amserol ac ystyriol i ymholiadau cymhleth, gan gefnogi ymrwymiad CNC i dryloywder, hygyrchedd a rhagoriaeth mewn gwasanaeth cyhoeddus.
Byddwch hefyd yn chwarae rhan weithredol wrth lunio a gwella profiad ein cwsmeriaid trwy ddatblygu gwasanaethau ar-lein a systemau mewnol.
Er nad oes cyfrifoldeb rheoli llinell uniongyrchol, bydd disgwyl i chi fentora a chefnogi aelodau eraill y tîm, gan helpu i feithrin diwylliant o welliant parhaus a datblygiad proffesiynol.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ddefnyddio eich gwybodaeth arbenigol i wneud gwahaniaeth gwirioneddol — i’r cyhoedd a’r amgylchedd rydyn ni’n ei wasanaethu
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Helen Florek-Oughton ar
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Amdanom ni
Cyfoeth Naturiol Cymru yw prif gorff amgylchedd Cymru, sy’n gyfrifol am ddiogelu, cynnal a gwella’r amgylchedd naturiol, gan gefnogi defnydd cynaliadwy o’n hadnoddau naturiol er budd cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
Mae’r swydd hon wedi’i lleoli o fewn y Canolfan Cwsmeriaid, sy’n rhan o’n Cyfarwyddiaeth Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol. Mae’r gyfarwyddiaeth yn arwain ymgysylltiad allanol CNC ac mae’n allweddol wrth feithrin ymddiriedaeth y cyhoedd, cryfhau perthnasoedd â rhanddeiliaid, a chefnogi’r gwaith o gyflawni ein strategaeth gorfforaethol. Yn benodol, mae’n chwarae rhan ganolog wrth hyrwyddo ein hymrwymiadau i dryloywder, canolbwyntio ar gwsmeriaid, a thrawsnewid digidol.
Mae ein Canolfan Cwsmeriaid yn darparu ystod o wasanaethau rheng flaen hanfodol, gan gynnwys rheoli ymholiadau cyhoeddus, ceisiadau rhyddid gwybodaeth, cwynion, adrodd ar ddigwyddiadau, a thrwyddedu data. Ffocws y tîm yw darparu profiad cwsmer o safon, sy’n ymatebol a hygyrch yn gyson ar draws sianeli cyfathrebu lluosog.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
Ymateb i ymholiadau cymhleth gan gwsmeriaid drwy ein gwahanol sianeli yn unol â safonau gwasanaeth cwsmeriaid y cytunwyd arnynt a deddfwriaeth berthnasol e.e. Rheoliadau Ailddefnyddio Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus, Deddf Rhyddid Gwybodaeth (2000), Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (2004) ac ati.
Cydlynu ymatebion i geisiadau drwy ymgysylltu ag arweinwyr technegol ar draws y busnes a’u cynorthwyo gan sicrhau eu bod yn deall gofynion y cais.
Dadansoddi data a gwybodaeth gymhleth, swmpus a sicrhau eu bod yn cael eu cyflwyno mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar y cwsmer gan gymhwyso’r ddeddfwriaeth gywir a’r contract / trwydded berthnasol fel y bo’n addas.
Sicrhau bod yr holl dargedau perfformiad a safonau yn cael eu cyrraedd ac uwchgyfeirio unrhyw risgiau i berfformiad i’r tîm rheoli.
Cefnogi aelodau’r tîm gyda gwaith achos cymhleth, gan ddatblygu set o sgiliau arbenigol ac arbenigedd.
Bod yn esiampl o ofal cwsmeriaid ardderchog ar draws ein holl weithgareddau, gan sicrhau bod safonau uchaf o ran gwasanaethau cwsmeriaid yn cael eu mabwysiadu a’u cynnal ar draws yr holl weithgareddau.
Gweithio’n hyblyg fel rhan o’r Tîm Rheoli Cwsmeriaid ac ymdrechu i ddatblygu’r rôl, gan helpu ein sefydliad i ddod yn ddarparwr blaenllaw gwasanaeth cwsmeriaid o fewn y sector cyhoeddus.
Rhoi mewnbwn i’r gwaith o ddatblygu systemau a phrosesau newydd gan sicrhau diwylliant o welliant parhaus.
Gweithredu fel mentor i ddechreuwyr newydd a chefnogi cydweithwyr gyda chyngor ar geisiadau dadleuol / cymhleth gan gydweithio i ddarparu ymateb sy’n canolbwyntio ar y cwsmer
Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
Ymrwymiad i Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio .
Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol sy’n eich galluogi i gyfathrebu’n effeithiol ac yn berswadiol â’n holl gwsmeriaid mewnol ac allanol.
Gwybodaeth am amrywiol ddeddfwriaethau yr ydym yn rhwym iddynt a gwybodaeth ymarferol am bolisi codi tâl a thrwyddedu data CNC.
Gwybodaeth am yr egwyddorion wrth drin data personol a pholisi diogelwch wrth drin gwybodaeth ariannol.
Profiad o weithio o fewn Tîm Rheoli Cwsmeriaid aml-sianel gyda dealltwriaeth o amrywiol gymwysiadau Microsoft gan gynnwys system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM).
Y gallu i addasu i flaenoriaethau sy’n newid a galw cwsmeriaid pan fo angen a gweithio gydag eraill i ddatblygu gwelliannau i gwsmeriaid.
Gofynion y Gymraeg
Hanfodol: Lefel - Lefel hyfedredd (rhugl mewn Cymraeg llafar)
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
cynllun sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
manteision a chymorth o ran iechyd a lles
awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
Job Info:
Company: Cyfoeth Naturiol Cymru / Natural Resources Wales
Position: Cynghorydd Canolfan Cwsmeriaid x 2
Work Location: Cardiff
Country: GB
How to Submit an Application:
After reading and understanding the criteria and minimum qualification requirements explained in the job information Cynghorydd Canolfan Cwsmeriaid x 2 at the office Cardiff above, immediately complete the job application files such as a job application letter, CV, photocopy of diploma, transcript, and other supplements as explained above. Submit via the Next Page link below.
THIS JOB POSTING HAS EXPIRED (Over 30 days ago).
Please search for the latest job opportunities on our
Homepage.
Desc: General Secretary TUC Cymru Location: Cardiff Salary: Grade SLT1 £80,602 per annum rising incrementally to £83,778 per annum This exciting and varied role includes supporting the Welsh Congress and ou...
Desc: Experienced KS2 Teaching Assistant - CardiffStart Date: September 2026We are seeking an enthusiastic, experienced, and dedicated Teaching Assistant to join our supportive school team in Cardiff from S...
Desc: Assistant Head Chef - UK - CardiffCalling all Pizza lovers!!.......(Pasta lovers are welcome too)Assistant Head Chef up to £14.25 per hour plus Tronc and Benefits As Assistant Head Chef you will be a...
Desc: Job DescriptionPlease note:Companies House cannot offer Visa sponsorship to candidates through this campaign.Security Clearance is an essential requirement for this campaign. You'll need to have b...
Desc: Job DescriptionFreelance P6 Project Planner - Rail Upgrade ProjectLocation: Cardiff, WalesDuration: 2-3 Years (Long-term)Rate: Up to £(Apply online only) per day (Outside IR35 - Paid via Ltd Co) DOE K...