Job Description:
Latest job information from Cyfoeth Naturiol Cymru / Natural Resources Wales for the position of Cynghorydd Rhywogaethau. If the Cynghorydd Rhywogaethau vacancy in Cardiff matches your qualifications, please submit your latest application or CV directly through the updated Jobkos job portal.
Please note that applying for a job may not always be easy, as new candidates must meet certain qualifications and requirements set by the company. We hope the career opportunity at Cyfoeth Naturiol Cymru / Natural Resources Wales for the position of Cynghorydd Rhywogaethau below matches your qualifications.
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Rhywogaethau Gwarchodedig / Gweithrediadau
Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Rhif swydd: 202226
Y rôl
Ydych chi am wneud gwahaniaeth hirdymor i bobl ac amgylchedd Cymru? Ydych chi'n angerddol am warchod rhywogaethau prin?
Mae gennym gyfle cyffrous i ymuno â'n Tîm Rhywogaethau a Warchodir sy’n gweithio ledled Cymru, yn ein Gwasanaeth Cynghori ar Gynlluniau Datblygu. Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm sy'n cynghori ar effeithiau posibl croestoriad eang o gynigion ar rywogaethau gwarchodedig, gan ganolbwyntio'n benodol ar geisiadau am drwyddedau rhywogaethau a chyngor ar gynlluniau datblygu. Ar adeg o argyfwng natur, bydd y cyngor a ddarparwch yn cyfrannu'n uniongyrchol at warchod rhai o rywogaethau mwyaf eiconig a bregus Cymru.
Yn y rôl hon, bydd yr ymgeisydd a benodir yn darparu arbenigedd technegol ac arweiniad i gwsmeriaid mewnol ac allanol mewn perthynas â'r rhywogaethau canlynol o anifeiliaid a warchodir gan y gyfraith; Ystlumod (pob rhywogaeth), Madfallod Dŵr Cribog, Pathewod, Dyfrgwn, Llyffant Cefnfelyn, Madfall y Tywod, Gwiwer Goch, Bela'r Coed a Llygoden y Dŵr.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, trefnus ac addasadwy gyda sgiliau cyfathrebu cryf i ymuno â'n tîm; Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus allu dangos profiad ym maes ecoleg, cadwraeth ac egwyddorion lliniaru ar gyfer ystod o'r rhywogaethau gwarchodedig uchod, sgiliau cyfathrebu da a rheoli cwsmeriaid.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i weithio o’r swyddfa CNC yn y lleoliad uchod a bydd trefniant gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno ar adeg penodi. Bydd unrhyw hyfforddiant neu gyfarfodydd wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â / ag Jane Garner at
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
Darparu cyngor technegol ar gyfer Cynlluniau Datblygu Lleol a strategaethau a chynlluniau eraill (gyda chefnogaeth gan yr uwch gynghorydd Rhywogaethau lle bo'n gymhleth) gan sicrhau bod cyngor yn gadarn, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn cael ei gyflwyno erbyn yr amser gofynnol. Darparu cyngor i brosiectau datblygu gan gynnwys cynigion seilwaith o bwys cenedlaethol (gyda chefnogaeth gan yr uwch gynghorydd Rhywogaethau lle bo'n gymhleth) gan sicrhau bod cyngor yn gadarn, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn cael ei gyflwyno erbyn y dyddiad cau. Darparu cyngor technegol ar geisiadau am drwyddedau, gwelliannau ac ymgynghoriadau cysylltiedig i'r Gwasanaeth Trwyddedu Rhywogaethau i gefnogi penderfyniadau trwyddedau a gwaith cysylltiedig gan sicrhau bod cyngor yn gadarn, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn cael ei gyflwyno erbyn yr amser gofynnol. Cyfrannu at baratoi gwybodaeth mewn perthynas â heriau i gyngor datblygu neu benderfyniadau trwyddedu CNC, gan gynnwys mynychu Apeliadau ac Ymchwiliadau. Cyflwyno'r Gwasanaeth Cynghori Domestig Cynnig cyngor i gefnogi’r gwaith o reoli safleoedd dynodedig lle bo Rhywogaethau Gwarchodedig yn bresennol.Datblygu a chynnal cysylltiadau effeithiol â chwsmeriaid (mewnol ac allanol) i sicrhau dealltwriaeth dda a darpariaeth effeithlon o wasanaeth cynghori sy’n addas i’r diben. Cyfrannu cyngor ar gyfer gwaith cynllunio lleoedd amlswyddogaethol, er enghraifft Datganiadau Ardal a chynlluniau a rhaglenni gwytnwch bioamrywiaeth. Cynnig cymorth a chyngor technegol i'r Heddlu wrth ymchwilio i droseddau mewn perthynas â Rhywogaethau Gwarchodedig a chyfrannu at weithgareddau cydymffurfio ehangach o ran Rhywogaethau a Gwarchodedig fel y bo'n briodol. Cyfrannu at gyflawni rhaglenni gwyliadwriaeth a monitro. Llunio cofnodion y gellir eu harchwilio o weithredoedd a chanlyniadau i gyfiawnhau a dangos bod yr holl ofynion cyfreithiol a gweithdrefnol wedi'u bodloni.Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.Ymrwymiad i Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio .
Gwybodaeth am ecoleg a chadwraeth, a dulliau lliniaru sy'n addas ar gyfer yr ystod o rywogaethau a warchodir gan ddeddfwriaeth bywyd gwyllt Gwybodaeth ymarferol am ddeddfwriaeth bywyd gwyllt a'i defnydd. Sgiliau cyfathrebu a chyflwyno ysgrifenedig a llafar da, gyda'r gallu i ysgrifennu'n glir ar gyfer ystod eang o gynulleidfaoedd targed. Yn gallu negodi a gweithio gydag ystod eang o bobl, gan gynnwys tirfeddianwyr, sefydliadau partner a'r cyhoedd. Yn gallu gweithio'n effeithiol mewn sefyllfaoedd tîm/cydweithredol. Gallu gyrru car yn gyfreithlon yn y DU.Gofynion y Gymraeg
Hanfodol: - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
cynllun sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnodabsenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywydymrwymiad i ddatblygiad proffesiynolmanteision a chymorth o ran iechyd a llesawr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddioGweler y manylion llawn ar gyfer yr holl y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
Job Info:
- Company: Cyfoeth Naturiol Cymru / Natural Resources Wales
- Position: Cynghorydd Rhywogaethau
- Work Location: Cardiff
- Country: GB
How to Submit an Application:
After reading and understanding the criteria and minimum qualification requirements explained in the job information Cynghorydd Rhywogaethau at the office Cardiff above, immediately complete the job application files such as a job application letter, CV, photocopy of diploma, transcript, and other supplements as explained above. Submit via the Next Page link below.
Next Page »