Teacher at Ysgol Mynydd Bychan

Position Teacher
Posted 22 May 2026
Expired 21 Jun 2026
Company Ysgol Mynydd Bychan
Location Cardiff | GB
Job Type Full Time

Job Description:

Latest job information from Ysgol Mynydd Bychan for the position of Teacher. If the Teacher vacancy in Cardiff matches your qualifications, please submit your latest application or CV directly through the updated Jobkos job portal.

Please note that applying for a job may not always be easy, as new candidates must meet certain qualifications and requirements set by the company. We hope the career opportunity at Ysgol Mynydd Bychan for the position of Teacher below matches your qualifications.

DescriptionSupporting documentsEmployerLocation

Ysgol Mynydd Bychan, Llanishen Street, Cardiff, CF14 3QE

Oed 3 –11

Swyddi Athrawon Llawn Amser – Cytundeb Parhaol

Cyflog: Prif Raddfa / Uwch Graddfa

Cyfeirnod y Swydd : ED50053265/ED50053269

Mae Corff Llywodraethu Ysgol Mynydd Bychan yn awyddus i benodi athrawon llawn amser ar gontract parhaol.

Dewch i ymuno ag Ysgol Mynydd Bychan, ysgol hapus, ofalgar a chynhwysol sy’n cynnig croeso cynnes i bawb. Mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous yn hanes yr ysgol ar ein safle newydd, yng nghanol ei chymuned, wrth i ni ehangu’r ddarpariaeth addysg Gymraeg yn yr ardal a thyfu’n ysgol ddwy ffrwd.

Rydym yn chwilio am athrawon brwdfrydig, ymroddgar ac uchelgeisiol i ymuno â’n tîm cefnogol yn ystod y bennod gyffrous hon. Bydd yr unigolion a benodir yn ymarferwyr ystafell ddosbarth rhagorol, gyda dealltwriaeth gadarn o egwyddorion a gofynion Cwricwlwm i Gymru, ac ymrwymiad clir i ddarparu profiadau dysgu ysbrydoledig a pherthnasol i bob plentyn.

Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n:

Yn rhugl a chywir yn y Gymraeg.

Yn ymarferydd dosbarth ysbrydoledig, sy’n galluogi pob plentyn i gyrraedd ei lawn botensial drwy brofiadau dysgu o ansawdd uchel.

Yn gosod disgwyliadau uchel iddo/i ei hun ac i’r dysgwyr.

Yn gallu creu amgylchedd dysgu ysgogol ac ysbrydoledig.

Yn arddangos profiad dysgu rhagorol.

Yn barod i gyfrannu at fywyd ehangach yr ysgol.

Yn dangos sgiliau cydweithio cryf ac yn cyfrannu’n weithgar at ethos yr ysgol.

Yn fodlon cefnogi gweithgareddau allgyrsiol yr ysgol.

Yn gyfathrebwr rhagorol, gyda sgiliau rhyngbersonol o ansawdd uchel.

Manteision a chyfleoedd:

• Hyfforddiant a chefnogaeth barhaus ar gyfer datblygiad proffesiynol.

• Y cyfle i weithio mewn ysgol sydd â gwerthoedd cryf a chymuned gefnogol.

• Cyfle i fod yn rhan o gyfnod cyffrous wrth i’r ysgol ehangu.

Sut i ymgeisio

Am fwy o fanylion neu sgwrs anffurfiol, cysylltwch â’r Pennaeth, Mrs Glesni Lloyd.

Cyfeiriad: Ffordd Seland Newydd, Gabalfa, Caerdydd, CF14 3BR

Lawr lwythwch neu argraffwch y ffurflen gais drwy ddewis y botwm “Ymgeisio Nawr”. Dylech ddychwelyd y ffurflen wedi’i chwblhau i’r ysgol erbyn y dyddiad cau i e-bost-

Dyddiad cau: 15.05. 26 – 12:00yp

Dyddiad y cyfweliadau: 20fed Mai 2026

Rydym yn deall y gallech ddefnyddio DA (deallusrwydd artiffisial) ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, sicrhewch fod yr holl wybodaeth yr ydych yn ei rhoi yn ffeithiol gywir, yn wir, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau neu waith nad yw'n eiddo i chi.

Gwybodaeth bwysig

O dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, bydd angen i bob Gweithiwr Cymorth Dysgu Ysgolion gofrestru gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg (EWC).

Bydd y swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae’r swyddi gwag hyn yn addas i’w rhannu.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw rhoi cymorth i blant ac oedolion sy’n agored i niwed gan sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.

Fel cyflogwr cyfle cyfartal, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Felly, er nad yw’n ofyniad ar gyfer gwneud cais, rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol, gan gynnwys:

y rhai sy’n 25 oed ac iau;

y rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant;

y rhai o’n cymunedau lleol, yn benodol unigolion anabl, gofalwyr a’r rhai o gymunedau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a LGBT+ Caerdydd;

y rhai sy’n gallu cyfathrebu’n rhugl yn Gymraeg.

Safeguarding Statement

Safeguarding and Child Protection are key priorities for our School and Council. We aim to support children and vulnerable adults to ensure they are as safe as they can possibly be. Our services and schools are committed to ensuring the safety and protection of all children and vulnerable adults, and will take action to safeguard their well-being, and acknowledge that children and vulnerable adults have a right to protection. This is supported in the general ethos of the Council and all schools.

As an equal opportunities employer, we value diversity. Therefore, although not a requirement for application, we welcome and encourage applications from underrepresented individuals including those:

• aged under 25;

• not in employment, education or training;

• from our local communities including in particular disabled individuals, carers and those from the Cardiff BAME and LGBT+ communities;

• ability to communicate fluently in Welsh.

Job Info:

  • Company: Ysgol Mynydd Bychan
  • Position: Teacher
  • Work Location: Cardiff
  • Country: GB

How to Submit an Application:

After reading and understanding the criteria and minimum qualification requirements explained in the job information Teacher at the office Cardiff above, immediately complete the job application files such as a job application letter, CV, photocopy of diploma, transcript, and other supplements as explained above. Submit via the Next Page link below.

Next Page »

Similar Job Vacancies

  Teacher at Ysgol Mynydd Bychan
Posted: 6 days ago

Desc: DescriptionSupporting documentsEmployerLocationYsgol Mynydd Bychan, Llanishen Street, Cardiff, CF14 3QEOed 3 –11 Swyddi Athrawon Llawn Amser – Cytundeb Parhaol Cyflog: Prif Raddfa / Uwch Graddfa Cyfei...

Company: Ysgol Mynydd Bychan | Location: Cardiff