Athro ADY at Ysgol Garth Olwg
Desc: DescriptionEmployerLocationCYNGOR RHONDDA CYNON TAFYsgol Garth Olwg Y Brif Ffordd, Pentre’r Eglwys, Pontypridd CF38 1DX Nifer y disgyblion wedi'u cofrestru: 1250 Athro ADY Cytundeb: 1 Blwyddyn i gychw...
| Position | Athro ADY |
| Posted | 22 Jun 2026 |
| Expired | 22 Jul 2026 |
| Company | Ysgol Garth Olwg |
| Location | Pentre | GB |
| Job Type | Full Time |
Latest job information from Ysgol Garth Olwg for the position of Athro ADY. If the Athro ADY vacancy in Pentre matches your qualifications, please submit your latest application or CV directly through the updated Jobkos job portal.
Please note that applying for a job may not always be easy, as new candidates must meet certain qualifications and requirements set by the company. We hope the career opportunity at Ysgol Garth Olwg for the position of Athro ADY below matches your qualifications.
CYNGOR RHONDDA CYNON TAF
Ysgol Garth Olwg
Y Brif Ffordd, Pentre’r Eglwys, Pontypridd CF38 1DX
Nifer y disgyblion wedi'u cofrestru: 1250
Athro ADY
Cytundeb: 1 Blwyddyn i gychwyn
Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon + Lwfans ADY £3,000
Dyddiad Dechrau: Medi 2026
Mae Corff Llywodraethol Ysgol Garth Olwg yn awyddus i benodi Athro uchelgeisiol, brwdfrydig, deinamig a chreadigol i ymuno â Chanolfan y Nyth, sydd yn ddarpariaeth arbenigol ar gyfer disgyblion sydd gydag anghenion dysgu dwys a chymhleth. Mae’r ddarpariaeth yn destun balchder mawr i ni fel ysgol ac wedi profi’n hynod lwyddiannus ers ei sefydlu yn 2024.
Agorwyd Ysgol Garth Olwg ym mis Medi 2019 ar gampws Cymunedol Garth Olwg, ym Mhentre’r Eglwys, sef hen safle Ysgol Gynradd Gymraeg Garth Olwg ac Ysgol Gyfun Garth Olwg. Mae’r ysgol yn addysgu dros 1250 o ddisgyblion ardal Pontypridd ac yn adeiladu ar lwyddiannau’r gorffennol.
Rydym yn recriwtio Athro ADY i addysgu disgyblion Bl 7-11 sy’n profi heriau o ran eu hagweddau at ddysgu, cynnal ymddygiad cadarnhaol ac ymgysylltu gyda’u llwybrau dysgu. Rydym yn edrych i benodi athro i gydweithio gyda'r Tîm ADY a Lles er mwyn sicrhau bod ein disgyblion yn gwireddu eu potensial.
Rydym yn dymuno penodi athro deinamig sydd:
·gyda’r dyhead i weithio mewn dosbarth arbenigol neu sydd gyda’r profiad o weithio mewn amgylchedd tebyg;
· gyda dealltwriaeth gadarn o ddarpariaeth ADY effeithiol gan gynnwys gwybodaeth drylwyr o’r ddeddf ADY.
· yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol
· gyda’r ymroddiad a’r brwdfrydedd i weithio gyda disgyblion gydag anawsterau ymddygiad.
· gyda’r gallu i sefydlu systemau a phrosesau newydd gan gydweithio’n effeithio gyda’r staff.
· gyda disgwyliadau uchel o ran datblygiad a chynnydd disgyblion sydd ag ADY.
· yn gallu arwain, annog ac ysbrydoli eraill.
· yn awyddus i rannu arfer dda gydag eraill yn yr ysgol a thu hwnt.
Disgwyliadau’r swydd:
· Rheoli pob agwedd ar weithrediad dyddiol y ddarpariaeth, gan gynnwys rheoli staff cymorth, ymyraethau, amserlen y disgyblion
· Sicrhau rhaglen addysgu lle bydd yr athro yn addysgu rhai gwersi, darparu cwricwlwm amgen a lle bo angen mynychu gwersi i gefnogi disgyblion o fewn y wers.
· Cyfathrebu anghenion a darpariaeth gyda’r athrawon prif ffrwd
· Cydweithio gyda’r Tîm Lles i asesu, ysgrifennu CDU, a chynllunio ymyraethau i’r disgyblion
· Cysylltu â darparwyr amgen a lleoliadau yn y gwaith a sicrhau ansawdd eu gwaith
· Cysylltu'n agos a chydweithio ag asiantaethau allanol ar gyflwyno rhaglenni cymorth
· Rheoli ymddygiad disgyblion agored i niwed er mwyn atal gwaharddiad ac anfodlonrwydd
· Sicrhau cofnodi cyrhaeddiad, presenoldeb ac ymddygiad yn gywir a sicrhau bod y data hwn ar gael yn rhwydd at ddibenion monitro a gwerthuso
· Monitro cynnydd unigol a gosod targedau ar gyfer gwella yn ddyddiol / wythnosol
· Monitro presenoldeb a chanlyniadau cwricwlwm ar gyfer myfyrwyr sy'n defnyddio'r ddarpariaeth ·
· Cynnal cyswllt rheolaidd rhwng yr ysgol a'r cartref yn ôl yr angen, gan sefydlu cysylltiadau adeiladol â rhieni, cyfnewid gwybodaeth, eu cadw'n wybodus a hwyluso cymorth i'w plentyn
· Arwain, cydlynu a sicrhau safonau uchel mewn cymorth ymddygiad a dyfeisiadau lles penodol i'r disgyblion.
Mae croeso i chi gysylltu gyda'r ysgol i drafod y swydd hon ymhellach gyda’r Dirprwy Brifathro, Mrs Elin Howard.
Byddwn fel ysgol hefyd yn fwy na pharod i gyfarfod darpar ymgeiswyr sydd am ymweld â'r campws arbennig hwn cyn mynd ati i wneud cais neu cyn y broses apwyntio. Noder bod y llythyr cais yn gyfle i chi nodi’ch syniadau, sgiliau proffesiynol ac unrhyw brofiad perthnasol mewn perthynas â’r swydd hon yn ogystal â’r modd y byddwch yn cyfrannu’n llawn i fywyd Ysgol Garth Olwg.
Oes gennych chi'r rhinweddau i wneud cyfraniad blaengar i weledigaeth fentrus, uchelgeisiol ac arloesol Ysgol Garth Olwg?
Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais.
Mae modd cael ffurflenni cais a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a'r fanyleb person ar gyfer y rôl oddi ar wefan eteach.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12.00pm ar ddydd Gwener, 26ain o Fehefin 2026.
MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I’R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.
Safeguarding Statement
Ysgol Garth Olwg is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.After reading and understanding the criteria and minimum qualification requirements explained in the job information Athro ADY at the office Pentre above, immediately complete the job application files such as a job application letter, CV, photocopy of diploma, transcript, and other supplements as explained above. Submit via the Next Page link below.
Desc: DescriptionEmployerLocationCYNGOR RHONDDA CYNON TAFYsgol Garth Olwg Y Brif Ffordd, Pentre’r Eglwys, Pontypridd CF38 1DX Nifer y disgyblion wedi'u cofrestru: 1250 Athro ADY Cytundeb: 1 Blwyddyn i gychw...
Desc: Griffiths Hire ShopsPetrol/Diesel Fitter/MechanicWrexhamRole:Duties are to test, maintain and repair our petrol/diesel tools and small plant in our expanding hire fleet.Working as part of a three-pers...
Desc: Griffiths Hire ShopsWorkshop-based Powered Access EngineerWrexhamRoutine maintenance, repair and PDI of a modern hire fleet in a clean, warm workshop environment where the priority is quality of work,...